Y DDARLITH FLYNYDDOL

Nos Iau

y 18fed o Fehefin, 2009

gan

Yr Athro Hywel Teifi Edwards

Gweler Y CALENDR

 

 

 





Cefndir
Sefydlwyd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai fel menter gymunedol yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr yn Arfon. Y bwriad yw creu canolfan sy’n costrelu hanes ardal sy’n ferw o weithgaredd diwylliannol ac yn enwog am ei chyfraniad diwydiannol, addysgol a chrefyddol i fywyd Cymru.

Mae’r dalgylch yn ymestyn o’r Bontnewydd (Afon Gwyrfai) yn y gogledd i Lithfaen a Mynyddoedd yr Eifl yn y de ac yn cynnwys Dyffryn Nantlle. Mae’r pum plwyf canlynol o’i mewn:
Llanaelhaearn, Clynnog, Llandwrog, Llanwnda a Llanllyfni.

Cefnogaeth
Cafodd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai gefnogaeth ariannol Rhaglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru i brynu Ysgoldy (cyn Goleg Rhagbaratoawl y Methodistiaid) a Thy’r Capel Ebeneser, Clynnog Fawr. Cafodd y cynllun hefyd gymorth ariannol Cyngor Gwynedd, Cynllun CAE Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ogystal â Mantell Gwynedd. Datblygir yr Ardd trwy gymorth y cyrff amgylcheddol Enfys ac Amgylchedd Cymru.



 









replace with your keywords replace with your keywords replace with your keywords replace with your keywords replace with your keywords replace with your keywords replace with your keywords replace with your keywords replace with your keywords

image
image